Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Eryri |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 1,085 metr |
Cyfesurynnau | 53.068864°N 4.075589°W |
Cod OS | SH6098954379 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 1,039 metr |
Rhiant gopa | Ben Nevis |
Cadwyn fynydd | Eryri |
Yr Wyddfa yw Mynydd uchaf Cymru, ac hefyd mynydd uchaf Ynys Prydain i'r de o Ben More[1], (1,085 m/3,560 troedfedd) ym Mharc Cenedlaethol Eryri yng Ngwynedd.
Mae trên bach Rheilffordd yr Wyddfa yn dringo i gopa'r Wyddfa o Lanberis i'r rhai nad ydynt am gerdded i fyny. Adeiladwyd y lein yn 1896. Ar y copa mae Hafod Eryri: canolfan ymwelwyr a thŷ bwyta a agorwyd yn 2009.
Mae tua 591,000 o bobl yn cerdded i gopa'r Wyddfa bob blwyddyn,[2] a thua 140,000 arall yn cyrraedd y copa ar y trên bach.[3] Ceir golygfeydd o ardal eang o'r copa; nid yn unig ran helaeth o ogledd a chanolbarth Cymru ond ar ddiwrnod clir Iwerddon (y Weriniaeth a'r Gogledd), Ynys Manaw, yr Alban, a Lloegr. Yr olygfa bellaf rhwng dau bwynt ar ynys Prydain, mewn theori, yw'r olygfa rhwng copa'r Wyddfa a chopa Merrick yn ne'r Alban, pellter o 144 milltir (232 km). Gellir ei gweld o Bleaklow yn y Peak District weithiau hefyd, pellter o 96 milltir.[4]